Cefndir:

 

Tinopolis yw un o’r cwmniau teledu annibynnol mwyaf yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn gweithio ym mhob maes – ffeithiol, adloniant, chwaraeon, drama a’r cyfryngau digidol. Mae ein rhaglenni yn cael eu darlledu dros y byd ac mae gennym bresenoldeb pwysig yn y farchnad gyfryngau fyd-eang. Yn yr UDA rydym yn cynhyrchu rhaglenni teledu i bob un o’r prif rwydweithiau.

 

Mae grwp Tinopolis yn cynnwys rhai o’r enwau mwyaf eu parch yn y sector teledu. Mentorn Media yw cynhyrchydd ffeithiol mwyaf profiadol y DU. Sunset+Vine yw’r cynhyrchydd chwaraeon annibynnol mwyaf blaenllaw. Enillodd Daybreak wobrau lu am ddramau ac mae gan Pioneer Productions enw da dros y byd am raglenni ffeithiol arbenigol sy’n torri tir newydd. Yn yr Unol Daleithiau mae A. Smith and Co. yn arwain y farchnad mewn adloniant ffeithiol ac mae  Magical Elves yn gyfrifol am raglenni ffeithiol ac adloniant ffeithiol sy’n arloesi yn y maes.

 

Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth rhaglenni aml-blatfform yn ogystal ag adnoddau digidol i’r sectorau corfforaethol ac addysg.

 

Tinopolis yn Llanelli

 

Saif canolfan deledu Tinopolis Cymru yng nghanol tre Llanelli, a chaiff ystod eang o raglenni teledu eu cynhyrchu o’r fan hyn gan gynnwys rhaglenni byw, chwaraeon, a dogfennau o’r safon uchaf. Mae rhai wedi ennill sawl gwobr Bafta. O’r stiwdio sydd a’i ffenest yn edrych ar brif stryd y dre daw rhaglenni dyddiol S4C. Mae Heno am 7 o’r gloch bob nos bellach yn asgwrn cefn i amserlen nosweithiol y sianel ac rydym bellach wedi bod yn cynhyrchu’r rhaglen yn llwyddiannus ers 26 blynedd. Darlledir y rhaglen gylchgrawn brynhawn, Prynhawn Da, yn ddyddiol am 2pm. O’r ganolfan hon hefyd daw’r gyfres boblogaidd Ralïo, uchafbwyntiau y Tour de France a’r gyfres gerddorol Stiwdio Gefn.

 

Mae gwreiddiau’r cwmni yn holl bwysig i ni. Tinopolis Cymru yw cwmni teledu annibynnol rhanbarthol mwyaf Prydain. Mae’r gair Tinopolis yn gyfystyr â Llanelli ac mae’n bwysig i ni bod yr hunaniaeth unigryw a ddaw o hynny ynghyd â Chymreictod y cwmni yn cael ei hyrwyddo gyda’r enw dros y byd. Mae’r iaith Gymraeg yn amlwg ar gardiau busnes a gohebiaeth y cwmni ac yn ein gwneud yn wahanol.

 

 

 

 

Mae cyfraniad Tinopolis i economi yr ardal yn hollbwysig wrth gynnig cyfleoedd pwysig ym maes y diwydiannau creadigol. Golyga hyn bod cyfleoedd i bobl ifainc uchelgeisiol sydd a’u bryd ar weithio ym myd teledu.

 

Cyflogir dros gant trideg o o bobl yn Llanelli a Chaernarfon. Doedd y diwydiant teledu ddim yn bod yn Abertawe ac yna yn Llanelli tan i ni gyrraedd ond bellach mae’r swyddi a’r hyfforddiant sy’n cael eu cynnig yn unigryw i’r gorllewin o Gaerdydd. Rydym erbyn hyn yn rhan naturiol o’r gymdogaeth. Ac eithrio’r Awdurdod Lleol, ni sy’n darparu y nifer mwyaf o swyddi yn yr iaith Gymraeg a rheiny yn swyddi o safon. Mae cefnogaeth S4C ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad creadigol a thechnegol cannoedd ar gannoedd o bobl ifainc yr ardal ac sydd, oherwydd buddsoddiad S4C yn y Gorllewin, wedi gallu dysgu sgiliau newydd mewn diwidiant sydd â chyflogau da tra’n aros yn eu hardal enedigol i fagu teuluoedd a chyfrannu ymhellach i’w cymdeithas leol.

 

Cyn i Tinopolis symud i’w bencadlys newydd yng nghanol Llanelli roedd yr adeilad wedi mynd a’i ben iddo. Hwn oedd hen siop Tesco y dre cyn i’r archfarchnad adleoli i Barc Trostre ar y cyrion. Yn sgil buddsoddiad sylweddol gan Tinopolis a gweledigaeth ac uchelgais i geisio sefydlu cwmni o bwys yn nhre’r Sosban adnewyddwyd yr hen siop yn ganolfan fodern a deniadol. Dyma arweiniodd at ddatblygu ochr ddwyreiniol tre Llanelli, sydd erbyn hyn yn ardal o bwysigrwydd anferth ac adfywiad cyffrous wedi agor theatr a chanolfan gelfyddydol newydd Y Ffwrnes drws nesaf i Tinopolis. Gwelodd y Cyngor Sir y cyfle i gysylltu Tinopolis gyda’r ganolfan newydd ac wrth ei hadeiladu mae ceblau pwrpasol wedi eu gosod rhwng y ddau adeilad er mwyn gallu defnyddio’r theatr at bwrpas darlledu. Mae  modd i S4C hefyd fanteisio o’r bartneriaeth yma. Bydd y cysylltiad rhwng Y Ffwrnes a Tinopolis yn cyrraedd uchafbwynt yn 2018 pan ddaw un o brif wyliau y cyfryngau i Lanelli sef yr Wyl Gyfryngau Geltaidd.

 

Ar hyn o bryd mae mwy o adnewyddu yn digwydd ar y stryd fawr wrth i’r cyngor gymryd meddiant o rai o’r hen adeiladau gan greu fflatiau o’r radd flaenaf ar y llawr cyntaf. Mae ‘na ymdrech lew i ddod a mwy o fywyd i dre a oedd unwaith yn gyda’r mwyaf ffyniannus yn Sir Gâr.

 

Yn ddi-gwestiwn , mae swyddi da fel sy’n cael eu cynnig gan Tinopolis yn brin ac yn yn cael eu gwrerthfawrogi mewn tref difreintiedig. Yn ôl ymchwil arbennig ar y dre yn 2010 gan y Cynulliad Cenedlaethol roedd lefel y rhai sy’n derbyn budd-dal diweithdra yn Llanelli eisoes yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ( Llanelli 4.7%, cenedlaethol 4.6%); a bod 3 o wardiau cyngor y dre (Tyisha, Glanymor a Llwynhendy) ymysg y tlotaf drwy Gymru gyfan. Ychwanegwyd at ddifrifoldeb y sefyllfa economaidd gan doriadau cwmni dur Tata yn Nhrostre.

 

Mewn hinsawdd o’r fath , mae polisi Tinopolis i greu cwmni rhyngwladol gyda’i bencadlys yn Llanelli yn allweddol i ddatblygiad economaidd. Yn ogystal a’r elfen hon mae bwriad y cwmni i barhau yn driw i Orllewin Cymru yn fodd o fagu hyder o fewn y gymdeithas o’i gylch. Mae hefyd yn atgyfnerthu y teimlad o hunaniaeth Gymreig sy’n allweddol i ddatblygiad cenedlaethol. Yn fwriadol y Gymraeg yw prif iaith y gweithle. Caiff hyn yr effaith o normaleiddio’r Gymraeg i bobl ifainc a fyddai – i fod yn gwbl onest – yn troi i’r Saesneg. Gweler mwy am bwysigrwydd yr ymrwymiad hyn i’r iaith Gymraeg wrth weithredu amcanion a strategaeth Llywodraeth Cymru yn hwyrach yn y ddogfen.

 

Tinopolis yng Nghaernarfon

 

Cyn i Tinopolis symud i’w swyddfeydd presennol yn Galeri Caernarfon roedd swyddfeydd y cwmni ar stad y Faenol. Ond pan benderfynodd Cwmni Tref Caernarfon fuddsoddi mewn adeilad pwrpaspl newydd i hybu’r celfyddydau a chreu canolfan newydd a fyddai’n galon i’r gymuned leol, penderfynom ninnau ein bod am ddangos cefnogaeth i’r dre a’r fenter newydd uchelgeisiol hon wrth logi swyddfeydd yno.

 

Golyga hyn fod Tinopolis, yn sgil y gwaith ar y rhaglenni dyddiol, yn ran bwysig o gymuned Caernarfon ac yn ran bwysig o economi’r dre. Yn debyg i Lanelli, mae gwaith i Gymry Cymraeg ifainc yn brin. Bellach rydym yn cyflogi dau griw llawn a dau ohebydd yno a pheirianydd sy’n gyfrifol am yr adnodd SNG. Mae bod yn gwmni sydd a buddsoddiad cenedlaethol yn bwysig wrth gynhyrchu rhaglenni dyddiol, gan wneud y rhaglenni yn berthnasol i Gymru gyfan, y de a’r gogledd.

 

 

 

Pwysigrwydd y gwaith ac economi leol i’r iaith Gymraeg

·         Mae Tinopolis yn gwmni sy’n fwriadol wedi dewis mai’r Gymraeg yw iaith y gweithle – mae’r gwaith o fudd economaidd mawr mewn ardal ddifreintiedig ond hefyd yn fudd economaidd i siaradwyr Cymraeg

·         Mae pobl ifanc felly yn gallu aros yn eu hardal wrth gael gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae siarad Cymraeg yn y gweithle yn normaleiddio’r iaith tu allan i’r gwaith hefyd

·         Dylai’r Llywodraeth sicrhau fod ardaloedd difreintiedig cefn gwlad Cymru lle mae’r iaith yn gwanhau yn cael mwy o siawns i ennill cytundebau caffael  (ceir mwy am hyn yn ddiweddarach)

·         Dylai cynllunio economaidd fynd law yn llaw a’r iaith

·         Ni ddylid gweld yr iaith fel rhwystr i ddatblygu’n gwmni rhyngwaladol – mae deall anghenion dwyieithrwydd a diwylliannau gwahanol yn gallu bod yn arf marchnata pwerus dros y byd

·         Dylid rhoi cymorth ariannol i fusnesau i gael sicrhau arwyddion dwyieithog ag ati gan wneud yr iaith yn gwbl weledol – gallai hyn ychwanegu at werth economaidd y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn ogystal ag ychwanegu at normaleiddio’r iaith

·         Dylai dwyieithrwydd yng Nghymru ddiffinio cymdeithas a chymuned. Ni ddylai’r Gymraeg gael ei gweld fel rhwystr i ffyniant cwmni ond yn hytrach yn arf i lwyddo.

 

 

Mae tueddiad yng Nghymru i feddwl mai cwmnïau cyhoeddus fyddai’n gofyn am ddefnydd o’r Gymraeg ond rydym yn dangos bod y Gymraeg yn werthfawr mewn cwmni preifat sylweddol hefyd. Mae Tinopolis yn gwmni Cymraeg ac mae hynny yn rhan o’n brand ni ar draws y byd. Mae hynny yn gymorth i ni fod yn wahanol, i sefyll allan.

 

Rhaid gofyn y cwestiwn am ffaeleddau’r sector gyhoeddus trwy Gymru wrth beidio ag edrych ar ffyrdd i normaleiddio’r Gymraeg? Oes gormod o bwyslais ar yr angen i gyfieithu dogfennau neu anghenion caffael o’r Saesneg i’r Gymraeg er mwyn ticio bocsys yn unig yn hytrach na sicrhau bod y Gymraeg yn greiddiol, yn enwedig yn yr hen gadarnleoedd sydd bellach wedi colli diwydiant a gwaith? Byddai datblygu economaidd yn y modd yma yn gallu cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg hefyd.

 

Yng Nghymru rydym yn rhy euog o weld Saesneg fel yr iaith bwysig a’r Gymraeg fel iaith leiafrifol ranbarthol. Ond mae gwledydd eraill yn hen gyfarwydd a dwyieithrwydd a’r angen i fod yn sensitif i ddiwylliannau gwahanol. Rydym wedi gweld fod hyn yn arbennig o wir yn yr Unol Daleithiau ac yn Asia – er mai Saesneg yno hefyd yw’r iaith fawr gryf – mae’r gallu i ddangos ein bod fel pobl yn deall anghenion lleiafrifol yn ein gwneud yn apelgar. Mae’r hunaniaeth yma yn rhan holl bwysig o farchnata’r cwmni ac o lwyddiant cynyddol y cwmni.

 

 

 

 

Arferion da o ran cyflogi gweithwyr sy’n siarad Cymraeg

 

Mae normaleiddio iaith yn y gweithle yn arwain yn bendant at normaleiddio’r iaith ym mywydau’r staff tu allan i’r cwmni hefyd. Ac mae’n bolisi bwriadol gennym i hybu’r defnydd o’r Gymraeg wrth wneud yr iaith yn iaith bob dydd y gwaith. Does dim dwywaith mai Saesneg fyddai nifer o’r staff ifainc yn dewis siarad a’i gilydd onibai eu bod yn gweithio i gwmni sydd a pholisi iaith Cymraeg. Mae hyn yn golygu bod y bobl ifainc hynny yn dod i weld budd economaidd personol o allu siarad yr iaith. Mae ganddynt swyddi da, ac un o’r gofynion yw eu gallu i siarad Cymraeg. Rydym wedi sylwi bod y Gymraeg wedyn yn dod yn ffordd o fyw iddynt tu allan i’r gweithle hefyd – yr iaith a siaredir â chymar, neu wrth benderfynnu trosglwyddo’r iaith i’w plant oherwydd bod gwerth economaidd i’r iaith.

 

Pan yn cyrraedd Tinopolis dyw pawb ddim yn gallu siarad Cymraeg. Ond gan mai Cymraeg yw iaith ein busnes yn enwedig wrth gynhyrchu rhaglenni i S4C, Cymraeg yw iaith y gwaith. Fel cwmni rydym yn buddsoddi mewn gwersi Cymraeg i staff sydd ddim yn siarad Cymraeg, ac yn talu am wersi gloywi iaith yn y gweithle i’r rhai sy’n llai hyderus. Mae’r staff di-Gymraeg yn cael eu hannog bob amser i siarad Cymraeg ac maent yn fuan iawn yn magu hyder i siarad Cymraeg gyda gwesteion ag ati i’r stiwdio.

 

Canlyniad hyn yw ein bod yn rhoi sgil newydd i unigolion sy’n golygu os byddant yn gadael i weithio i gwmni arall neu yn llawrydd mae ganddynt allu ychwanegol sy’n cynnig mwy o gyfleoedd iddynt.

 

Arian cyhoeddus sy’n talu am S4C. Wrth weithredu yn y modd yma tuag at y Gymraeg mae gwerth S4C yn Sir Gaerfyrddin, nid yn unig yn economaidd, ond hefyd yn ieithyddol yn talu ar ei ganfed.

 

 

 

Awgrymiadau ar gyfer hwyluso’r gwaith o hybu datblygu economaidd a’r Gymraeg gyda’i gilydd

Un o’r camau pwysicaf yn bendant fyddai i’r Llywodraeth a Chynghorau i weld datblygu economaidd a ieithyddol yn mynd law yn llaw. Nid wrth ddarparu dogfennau sychlyd ond wrth wneud yr iaith yn amod. Mae hawl gan gytundebau caffael i fynnu bod ystyriaethau economaidd, daearyddol a chymdeithasegol yn bwysig. Byddai dangos pwysigrwydd i’r iaith hefyd yn gallu rhoi gwell siawns i gwmniau bach – ac onid cefndir entrepreneuraidd o gwmnïau bach sydd gan Gymru wedi’r cwbwl? A rhain sydd mewn peryg o gael eu llesteirio gan anghenion caffael sy’n gweithio’n erbyn y Cymry ac o blaid cwmnïau mawrion rhyngwladol.

 

Braf gweld fod yr archfarchnadoedd preifat mwyaf yng Nghymru wedi gweld y synnwyr masnachol o gael arwyddion Cymraeg ac mae hyn yn ogystal â normaleiddio’r iaith yn ei chryfhau. Mae cwmni fel John Lewis – ac mae’n bwysig cofio yn y cyd-destun hwn mai John Lewis yw un o’r siopau mawr mwyaf llwyddiannus – wedi cofleidio’r Gymraeg. Maent wedi dangos parch wrth ddefnyddio Cymraeg cywir a deallus ar lawr y siop yn ogystal ac yn eu swyddfeydd. Maent yn sicrhau bod ganddynt staff sy’n medru’r Gymraeg (eto yn rhoi budd economaidd i unigolion yng Nghymru) ac maent yn frwdfrydig tuag at ddigwyddiadau Cymraeg e.e. partneriaethu gyda Llenyddiaeth Cymru wrth gynnal digwyddiadau yn y siop. Mae hyn yn ran o’u strategaeth bwriadol nhw i fod yn ran o’r gymuned – ac mae hynny’n talu iddynt yn economaidd.

 

Dylai grantiau fod ar gael i bob cwmni yng Nghymru i gael arwyddion dwyieithog ac er mwyn rhoi gwersi Cymraeg i’r staff gyda budd economaidd yn resymeg amlwg tu ôl i’r grantiau – yn ogystal â’r budd o normaleiddio’r Gymraeg. Hefyd, byddai defnydd amlwg o’r Gymraeg yn arf marchnata o ran y diwydiant twristiaeth – yn gwneud Cymru yn wlad ddeniadol wahanol i bob gwlad arall.

 

Ond heb os, y cyfraniad mwyaf y gall y Llywodraeth ei wneud yw cynllunio economaidd law yn llaw a’r iaith yn yr hen gadarnleoedd – cynllun fyddai’n diogelu cefn gwlad Cymru yn ogystal a bod yn gymorth i gadw’r iaith yn fyw. Mae Cymru yn wlad rhy fach i gael ei swyddi a’i breintiau economaidd wedi eu canoli yng Nghaerdydd. Mae angen bywyd economaidd ar gefn gwlad Cymru yn ddybryd.  Cynllunio economaidd gofalus wneith gadw pobl ifanc a theuluoedd ifanc yn eu broydd genedigol. Dyma fyddai’n cadw ysgolion ar agor a gwaith i athrawon. Byddai’n creu economïau bach newydd i ddarparu cyfleusterau i’r rhain e.e. siopau bach a busnesau bychain. Byddai’n haws i bobl fentro. Byddai’n caniatáu mynd ati o ddifri i geisio achub yr iaith rhag crebachu ymhellach wrth roi’r iaith a’r economi law yn llaw. Yn fwy na dim byddai’n gwneud Cymru yn wlad decach i bawb. Gyda gweithio o’r cartre yn digwydd yn gyson mae sicrhau gwasanaeth rhyngrwyd effeithiol yn hanfodol.

 

 

Gwaith Cymunedol Tinopolis

 

Rydym yn ceisio bod mor hael a phosib wrth gynnig nawdd – naill ai trwy rodd ariannol neu trwy gynnig adnoddau neu gyfleusterau am ddim.

 

Rydym yn annog ein staff hefyd i fod yn ddinasyddion da. Fe’u hysgogir i gymryd rhan yn eu cymunedau yn lleol. Nid cyflwynwyr hyd braich yw’n cyflwynwyr chwaith ond maent yn cael cefnogaeth gan Tinopolis i ymweld â chymunedau ar hyd a lled Cymru ac i siarad a chymdeithasau heb godi tâl. Mae ein presenoldeb amlwg yn y gogledd trwy waith ein swyddfeydd yn Galeri Caernarfon yn ychwanegu at y teimlad ein bod yn gwmni darlledu sy’n gwasanaethu Cymru gyfan.

 

 

I grynhoi

 

Wrth i’r gweithfeydd trymion diflannu ac wrth i economïau traddodiadol ddiflannu, mae fwy fwy o angen i’r Llywodraeth fuddsoddi mewn partneriaeth â busnes i roi cyfleoedd i bobl hyfforddi ac ail-hyfforddi mewn sectorau ble mae galw. Wrth gwrs mewn ardaloedd gwledig rhaid goresgyn y rhwystrau sy’n dal i barhau yn nhermau “is-adeiledd. Yr allwedd i symud ymlaen yw rhwydwaith o ffyrdd effeithiol. Mae Cymru’n dal i ddioddef  o ddiffygion cysylltiadau trafnidiaeth, argaeledd band-llydan digonnol ond hefyd cefnogaeth gwasanaethau ar draws y sbectrwm.  Teimlwn fod model busnes Tinopolis yng Nghymru dros y blynyddoedd yn esiampl wych o’r hyn sy’n bosib gyda chefnogaeth.